Pecyn Rhieni

colourful handprint icon Pecyn Rhieni

Cysylltwch â ni

colourful handprint icon Cysylltu
pot o baent gyda brwsh ynddo

Croeso

Blaenoriaeth Cylch Meithrin Bethel yw hapusrwydd a diogelwch pob plentyn – cynigir y gofal gorau posib mewn awyrgylch hapus a chartrefol, a chyfle i bob plentyn ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial.

Mae’r ystafell yn cynnwys offer, teganau ac adnoddau o’r ansawdd uchaf, sy’n adlewyrchu anghenion, datblygiad ac oedran y plant. Cyflwynir gweithgareddau i’r plant dros 2 a hanner oed, sy’n hyrwyddo’r Cyfnod Sylfaen 3-7oed (y cwricwlwm blynyddoedd cynnar cenedlaethol) er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cychwyn gorau posib ymhob agwedd o’u haddysg. Byddwn yn rhoi sylw manwl i gynllunio’r mannau chwarae tu allan, er mwyn cynnig cyfleoedd a gosod pwyslais ar weithgareddau ysgogol i blant yn yr awyr agored.

Amdanom

Sesiynnau